Cyswllt Diwylliant Cymru
Dewch o hyd i'ch lle mewn Ffilm a Theledu
Mae Cyswllt Diwylliant Cymru (CCW) yn cefnogi talent amrywiol i ddod o hyd i gyfleoedd yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru. Wedi'i redeg gan ac ar gyfer y gymuned, mae CCW yn hyrwyddo swyddi a chyfleoedd, yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n edrych i gael mewn i'r sector, neu'n chwilio am eu gig nesaf.
Mae gan ein cymunedau lawer o greadigrwydd a sgil i'w cynnig. Rydym yn gyffrous i gefnogi pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol i ffynnu yn y sector ffilm a theledu.
(Fadhili
Maghiya, Prif Swyddog Gweithredol)
Bydd Cyswllt Diwylliant Cymru yn cynyddu cyfleoedd i gymunedau amrywiol mewn ffilm a theledu yng Nghymru ac yn datblygu rhwydwaith ar gyfer cymunedau ethnig amrywiol sy'n gweithio yn ffilm, teledu ac ar draws sawl platfform.
Arweinir y prosiect gan Watch Africa CIC, ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru, trwy Creative Wales, gyda phartneriaid o BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Channel 4.
Ynglŷn â Watch Africa CIC:
Lansiwyd Watch Africa CIC yn 2013 mewn ymateb i’r diffyg cynrychiolaeth, a’r ddarpariaeth ddiwylliannol, ar gyfer diwylliant Du ac Affrica yng Nghymru. Mae Watch Africa wedi tyfu i fod yn gwmni ymgynghori a chynhyrchu diwylliannol sy'n gweithredu ar raddfa fyd-eang. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau ymgynghori, cynhyrchu ac ymchwil, yn ogystal â llwyfan ar gyfer ffilmiau, celf a diwylliant Affricanaidd yng Nghymru a thu hwnt. Yn Watch-Africa, rydym yn credu mewn helpu pobl a sefydliadau i fyw'r diffiniadau o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gan weithredu o bwynt profiad byw, rydym yn newidwyr ac yn eiriolwyr dros sector gwirioneddol amrywiol yng Nghymru.
Ynglŷn â Watch Africa CIC:
